Information
 

Click here to download the handbook as a pdf

Reading and numeracy tests in Wales
Information for parents and carers - click here

 





Grant Gwella Addysg a Grant Amddifadedd Disgyblion 2016-17 (Welsh only available) - click here

--------------------------------------------------------------------------------------

Datganiad Grant Amddifadedd Ysgol Bethel 2016 (Welsh only available)

Diben y Grant Amddifadedd Disgyblion yw gwella canlyniadau i ddysgwyr sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (hPYD). Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at welliannau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.


Fel ysgol rydym am ddysgu o’r arferion gorau yng Nghymru a thu hwnt trwy:

1. gynllunio ymyriadau sy’n canolbwyntio ar wella cyrhaeddiad plant o gefndiroedd difreintiedig, ac sy’n nodi’n glir yr hyn a ddisgwylir gan yr ymyriad, gan fonitro cynnydd disgyblion yn gyson a gwerthuso effeithiolrwydd yr ymyriad.
2. integreiddio cynlluniau ar gyfer defnyddio’r GAD i’n Cynllun Datblygu Ysgol, gan selio arferion ar dystiolaeth dda a’u cynnwys fel rhan o strategaeth ysgol gyfan.
3. gydbwyso ymyriadau ysgol gyfan ac ymyriadau wedi’u targedu er mwyn sicrhau bod pob dysgwr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael budd fel unigolyn a bod yr ysgol gyfan yn meithrin ei gallu i helpu pob dysgwr i gyflawni ei botensial llawn.


Yn 2016-17 rhoddwyd i Ysgol Bethel ddyraniad Grant Amddifadedd disgyblion o £7500

Yn Ysgol Bethel mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a'i fonitro gan Awdurdod Lleol Gwynedd a GwE, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.


Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:

• gyflogi cymhorthydd cefnogi addysg ar gyfer grŵp o ddisgyblion PYD
• gyfrannu at gyflogi athrawes arbenigol ADY ar gyfer disgyblion PYD


Nid yw’n briodol i’r ysgol gyhoeddi ei chynllun manwl oherwydd y perygl y gellid adnabod unigolion.

Apps used in the School - click here